Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 12 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) o dan adran 9 o Ddeddf 2014.

Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Chwefror 2016 ac eithrio rheoliad 2 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae rheoliad 2 yn darparu bod Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) wedi eu dirymu. Felly, mae Rheoliadau 2015 wedi eu dirymu a hynny’n effeithiol o 1 Ebrill 2016.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys y darpariaethau dehongli.

Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i’r Cyngor wneud darpariaeth mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i gyflogwr, ar gais y Cyngor, gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth a nodir yn yr Atodlen pan fo’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol berson y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor ddidynnu ffi gofrestru o gyflog athro neu athrawes ysgol, gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, athro neu athrawes addysg bellach neu weithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach; ac mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr ei thalu i’r Cyngor o fewn 14 diwrnod.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth yn yr Atodlen mewn cysylltiad â’r person y telir y ffi iddo wrth dalu’r ffi iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym                        1 Chwefror 2016

   ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 36 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2016 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015([2]) wedi eu dirymu.

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sy’n athro neu athrawes ysgol—

(a)     o fewn yr ystyr a roddir iddo yn rhes 1 o dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014; a

(b)     nad yw’n athro neu athrawes ysgol DCAAY;

ystyr “athro neu athrawes ysgol DCAAY” (“STPCD school teacher”) yw person sy’n athro neu athrawes ysgol—

(a)     o fewn yr ystyr a roddir iddo yn rhes 1 o dabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014; a

(b)     sy’n cael ei dalu yn unol â DCAAY;

ystyr “Cofrestr” (“Register“) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;

ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu sy’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

ystyr “DCAAY” (“STPCD”) yw’r ddogfen y cyfeirir ati yn y Gorchymyn a wneir yn flynyddol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002([3]) ac sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud  â chyflog ac amodau athrawon ysgol;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy;

ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014;

ystyr “ffi’r categori cofrestru” (“category of registration fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â phob categori cofrestru a nodir yn rheoliad 4(1).

Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy

4.(1)(1) Y ffi gofrestru sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2016 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017 ac ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny yw—

(a)     £78 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol DCAAY;

(b)     £49 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol;

(c)     £49 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol;

(d)     £49 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes addysg bellach; ac

(e)     £49 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.

(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd i gael ei roi’n gymhorthdal tuag at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1).

(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

(4) Pan fo person yn gwneud cais i gael ei gofrestru neu ei fod wedi ei gofrestru mewn mwy nag un categori cofrestru (“categorïau cofrestru perthnasol”)—

(a)     dim ond ffi un categori cofrestru sy’n daladwy ar gyfer pob un o’r categorïau cofrestru perthnasol; a

(b)     ffi’r categori cofrestru sy’n daladwy yw’r uchaf o’r ffioedd hynny ar ôl ystyried unrhyw gymhorthdal a bennir o dan baragraff (2).

Darpariaeth sydd i gael ei gwneud gan y Cyngor mewn perthynas â ffioedd

5. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—

(a)     i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—

                            (i)    ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a

                          (ii)    cadw cofnodion yn y Gofrestr; a

(b)     bod eithriadau ac esemptiadau pan na fo ffioedd yn cael eu codi.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais

6. Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson—

(a)     sydd, ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor, naill ai wedi ei gyflogi neu fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol; a

(b)     y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Didynnu ffi

7.(1)(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.

(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i gael ei ddidynnu gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 4(2).

(4) Ni chaniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—

(a)     bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu

(b)     ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Talu ffioedd i’r Cyngor

8. Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 7 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.

Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi

9. Wrth dalu’r ffi rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn yr Atodlen am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.

Methu â chyflawni dyletswydd

10. Os yw person yn methu â chyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

YR ATODLEN  Rheoliad 6

YR WYBODAETH SYDD I GAEL EI CHYFLENWI I’R CYNGOR

1. Enw llawn y person.

2. Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.

3. Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.

4. Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.

5. Enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu lle y mae fel arall wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol.

6. Rhif yswiriant gwladol y person.

7. Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.

8. Dyddiad geni’r person.

9. Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).

10. Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth, enw’r asiantaeth honno.

 



([1])           2014 dccc 5.

([2])           O.S. 2015/195 (Cy. 10).

([3])           2002 p. 32.